Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Hydref 2022
Amser:
09.00 -
09.09
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Russell George AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, roedd Russell George yn bresennol yn ei le. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan David Rees.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
Nododd y Llywydd y bydd ffotograffydd yn y Siambr ar ddechrau trafodion dydd Mawrth i dynnu lluniau newydd i'w defnyddio ar wefan y Senedd.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dydd Mawrth 8 Tachwedd -
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wella Gwasanaeth
Mamolaeth a Newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Morgannwg (30 munud) -Tynnwyd yn ôl
Dydd Mawrth 15 Tachwedd -
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 16 Tachwedd -
Dydd Mercher 23 Tachwedd -
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) – Amserlen
Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ddiweddaraf sy'n adlewyrchu newidiadau i derfynau amser a gytunwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor:
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/22
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gytuno bod asesiadau o'r amser sydd ar gael i'r Senedd ystyried deddfwriaeth yn fater i Bwyllgor Busnes, ac anfon copi o'r ymateb hwnnw at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a'r Trefnydd.
5 Unrhyw Fater Arall
Gwaith Diwygio'r Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai ei gyfarfod ar 15 Tachwedd ddechrau am 8.45 i alluogi busnes safonol i gael ei ystyried cyn cychwyn y sesiwn gyhoeddus ar argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Mynegodd y Llywydd ei dewis i'r Pwyllgor gynnal y cyfarfod hwnnw wyneb yn wyneb.